Our Stocking Policy
The ethos of our stocking policy is based on an ethical view of food production matched with a realistic understanding of the needs of the community of Capel Dewi.
These are the AIMS of the business:
|
Ein Polisi StocioMae natur ein polisi cyflenwi wedi ei sefydlu ar egwyddorion moesol o gynhyrchu bwyd ac yn adlewyrchu dealltwriaeth o anghenion cymuned Capel Dewi.
Dyma amcanion y busnes: Fod y Siop yn cyflenwi amrediad da o nwyddau safonol am bris sylfaenol. · fod yr amrediad yn cynnwys dewis iachus o fwyd a diod (isel mewn siwgwr, isel mewn halen) · fod y cyflenwad yn cynnwys cynhyrchion cynaliadwy, organig a Fairtrade fel rhan o’r amrediad arferol · cadw fframwaith brisio realistig sy’n cynnig gwerth teg · lle’n bosib, i gyflenwi bwydydd wedi eu tyfu a’u cynhyrchu’n lleol, o fewn 30 milltir, cyhyd â’u bod o safon cymharol â chynnyrch o leoedd eraill, ac am bris rhesymol. · monitro cyflenwad a chyflenwyr yn gyson i sicrhau’r fargen orau a bod y nwyddau mwyaf addas ar gael · annog y gymuned i argymell cyflenwyr, ac i awgrymu nwyddau ychwanegol i’r cyflenwad, i gael ei ystyried gan bwyllgor y Siop · fod y Siop yn derbyn cynnyrch sbar garddwyr lleol os fydd o safon da · fod y Siop bob amser yn dilyn mesurau Iechyd a Diogelwch Adran Iechyd Amgylcheddol y sir · lle’n bosib, darpar cynnyrch oddi wrth gymdeithasau sy’n gweithredu â’r un egwyddorion â phrosiect y Siop h.y. yn ddi-elw, gweithredu’n ddemocrataidd, yn seiliedig yn y gymuned · Fe caiff unrhyw elw o'r Siop ei fuddsoddi yn y gymuned fel grantiau bach i gymdeithasau lleol. |